Hyfforddeiaethau Galwedigaethol

Hyfforddiant/Hyfforddeiaethau Galwedigaethol

Mae cyflogwyr nawr yn edrych am sgiliau uwch a gwell cymwysterau yn y byd cyfnewidiol hwn.

Mae Hyfforddiant Galwedigaethol yn paratoi unigolion gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer  masnachau a galwedigaethau, tra’n ennill y cymwysterau holl bwysig a gydnabyddir gan ddiwydiant.

Trwy ddefnyddio dulliau mwy ymarferol na chymwysterau academaidd, bydd Hyfforddiant Galwedigaethol yn eich helpu i adeiladu gyrfa trwy weithio tuag at gymwysterau â bydd yn eich llywio’n syth i gyflogaeth neu i mewn i Addysg Bellach. Fe fydd y sgiliau â dysgwyd yn eich helpu ym myd gwaith.

Mae Hyfforddeiaeth ar Gyfer Ieuenctid yn raglen ddysgu newydd i bobl ifanc rhwng yr oedrannau o 16-17 yng Nghymru. Ei bwriad yw i roi y sgiliau perthnasol i bobl ifanc er mwyn iddynt symud naill ai mewn i brentisiaeth, Addysg Bellach neu gyflogaeth.  Bydd Hyfforddeiaethau yn cael eu cynnig o fewn tair lefel benodol, Ymgysylltu, Hyfforddeiaeth Lefel 1 a Phont At Waith

Academi Hyfforddi

Mae Hyfforddiant Galwedigaethol PRP yn ganolfan hyfforddi yn Noc Penfro (Sir Benfro).

Mae Hyfforddiant Galwedigaethol PRP yn sicrhau bydd y dysgwr yn ennill profiadau pleserus a buddiol â bydd o werth i’w gyrfa ddewisedig. Darperir cyrsiau gan diwtoriaid angerddol, sydd yn brofiadol a gwybodus ac sydd yn ymwybodol o’r sgiliau sydd angen.

Mae’r Ganolfan Alwedigaethol wedi ei rhannu mewn i 2 ran – Hyfforddiant Galwedigaethol a’r Academi Arlwyo, sydd yn helpu dysgwyr i adeiladu ar y sgiliau sydd eu hangen er mwyn dilyn gyrfa benodol ac ennill cymwysterau cydnabyddedig mewn diwydiant.

Am fwy o wybodaeth ar NVQ, ewch i wefan Llywodraeth Cymru…