Prentisiaethau

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn galluogi unigolion i ddysgu o gwmpas eu gwaith.  Gyda chymysgedd o hyffoddiant mewnol a thu allan i’r gweithle, gallwch fanteisio ar y cyfleoedd dysgu sydd wedi’u hariannu’n llawn.

Mae’r addysg wedi ei seilio ar anghenion cyflogaeth yr unigolyn, ac y mae’n ffordd wych o ennill cymwysterau â gydnabyddir yn genedlaethol.  Mae cyrsiau prentisiaeth yn rhad ac am ddim i’r unigolyn ac i’r cyflogwr oherwydd ariannwyd yr hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

O’r funud byddwch yn dechrau, fe gewch chi gyflwyniad trylwyr o’r holl elfennau bydd angen arnoch, fe fydd hyn yn sicrhau cynllun dysgu unigryw i chi, bydd y cynllun yn hyblyg o gwmpas eich amser, eich mynediad i ddysgu ac i’ch anghenion personol.

Mae pob Prentisiaeth yn cynnwys Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF (Qualification & Credit Framework), dyfarniadau cymwyseddau technegol (nid ym mhob maes galwedigaethol) a sgiliau hanfodol.

Trwy’r darpariaeth o’r tri maes cymhwysedd, fe fyddwch yn gallu cyflawni pob un o’ch anghenion dysgu, boed hynny drwy gael eich cydnabod am eich gallu sydd eisoes wedi’i ddatblygu neu drwy ddysgu sgiliau a chymwyseddau newydd â chefnogir gan ein tîm o aseswyr gwybodus a chymwys.

Mae PRP Training yn cynnig prentisiaethau dros ystod eang o feysydd galwedigaethol â fydd yn addas i bron bob amgylchedd gwaith.  Mae y cyrsiau prentisiaeth yma ar gael:

Gweinyddiaeth Busnes
Gofal Plant, Dysgu a Datblygiad
Gweithrediadau Canolfannau Cwswllt
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lletygarwch ac Arlwyo
Technoleg Gwybodaeth
Rheoli Tîm
Gwaith Chwarae
Manwerthu
Gwerthiant
Arweiniaeth Tîm

Neu lawrlwythwch y Prosbectws am fwy o fanylion.

 

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad i drafod ein cymwysterau mewn mwy o fanylder, cysylltwch â ni

ar 01646 623 780 | enquiries@prp-training.co.uk

Mae’r Rhaglenni Prentisiaethau, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn cael eu cefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop