Marchnata Digidol
Marchnata Digidol yw’r defnydd o gyfryngau digidol i ddenu ac ymgysylltu â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, er enghraifft ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu ar-lein, marchnata e-bost, ac optimeiddio peiriannau chwilio. Mae’r data cyfoethog a gynhyrchir yn galluogi dadansoddiad gronynnol o’r hyn sydd wedi gweithio, gan fynnu sgiliau dadansoddol a chreadigol uwchlaw’r rhai a fynir mewn marchnata a hysbysebu traddodiadol.
ROLAU’R SWYDDI POSIBL |
Cynorthwy-ydd Cyfryngau Cymdeithasol |
LEFELAU DYSGU |
3 |
GWEITHGAREDDAU O FEWN Y FFRAMWAITH |
DIPLOMA |
Diploma Lefel 3 mewn Marchnata Digidol |
CYMHWYSTER SGILIAU HANFODOL |
Cyfarthrebu lefel 2 Cymhwyso Rhif lefel 2 Llythrennedd Digidol lefel 2 |
ASESIAD GWYBODAETH A DEALLTWRIAETH HAWLIAU CYFLOGAETH A CHYFRIFOLDEBAU |
Mae’r Rhaglenni Prentisiaethau, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn cael eu cefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop