News
Wythnos Agored ôl-16 – Eich opsiynau
- May 28, 2020
- Posted by: Matthew Cooper
- Category: Uncategorised
Mae wythnos agored ôl-16 Sir Benfro bellach ar-lein!
Cofrestrwch i ymweld â ni “ar-lein” yn http://www.openweek.dysguarlein.com er mwyn siarad â’n tîm o arbenigwyr yn ein digwyddiadau o ddydd Llun y 1af o Fehefin i ddydd Gwener y 5ed o Fehefin, 2020.
Byddwn ar gael i siarad â chi am y cyrsiau a’r opsiynau gyrfaol sydd ar gael i chi gan ddarparwyr ar draws Sir Benfro, a gallwch gymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ag ateb byw gan ofyn cwestiynau o gysur eich cadair freichiau! Bydd gennym gynghorwyr annibynnol Gyrfaoedd Cymru ar gael i sgwrsio’n fyw drwy gydol yr wythnos.
Ar gyfer pwy mae e?
Os ydych chi’n ddisgybl blwyddyn 11 neu’n rhiant sydd eisiau gwybod mwy am ba opsiynau ôl-16 sydd ar gael, yna mae hyn i chi. Rydyn ni’n gwybod bod pethau ychydig yn wahanol ar hyn o bryd, ond rydyn ni dal eisiau rhoi’r cyfle i chi wneud dewis gwybodus.
Ymunwch â ni i gael gwybod am:
- Safon uwch
- Cyrsiau galwedigaethol 16-19 oed
- Hyfforddeiaethau
- Prentisiaethau
- Gofynion mynediad a lefelau
- Cymorth i fyfyrwyr
- Cyllid myfyrwyr
- Sut i wneud cais a’r broses ymgeisio
Er na allwch ymweld yn gorfforol â’r darparwyr gwych ar hyn o bryd, byddwch yn gallu archwilio ystod lawn o opsiynau. Ar ôl i chi gofrestru byddwn yn eich diweddaru gydag amserlen o ddigwyddiadau i chi ddewis ohonynt.