News
Neges gan dîm trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru
“Bwriad y rheolau aros gartref newydd yw ein cadw’n ddiogel a diogelu’r GIG, ond nid yw pob cartref yn le diogel. I rai, bydd y cyfyngiadau symud yn cynyddu eu perygl o drais domestig, cam-drin emosiynol a rheolaeth drwy orfodaeth ac yn gwneud iddynt deimlo’n fwy ynysig.
Gallai’r rheolau newydd gynyddu pŵer a rheolaeth camdrinwyr, a golygu bod dioddefwyr prin yn cael cyfle i droi at eu rhwydweithiau cefnogi arferol megis gwaith, teulu neu grwpiau cymunedol.
Rydym eisiau bod unrhyw un sydd dal mewn sefyllfa i helpu, boed yn un o’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n helpu’r rheini sy’n fwyaf agored i niwed, yn gontractiwr brys, yn aelod o weithlu’r gwasanaeth post, neu’n weithiwr mewn siop leol neu archfarchnad, yn gallu adnabod arwyddion camdriniaeth ac yn gwybod sut i helpu’n ddiogel.
Dyna pam ein bod wedi trefnu bod ein modiwl dysgu ar-lein yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gael i bawb (mesur dros dro yn ystod argyfwng y coronafeirws).
Ni fydd Cymru’n cadw’n dawel ynghylch trais neu gamdriniaeth.”
Gellir mynd at Learning@Wales modiwl hyfforddi ar-lein sy’n para 45 munud drwy fewngofnodi fel gwestai (guest log on):
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Byw Heb Ofn
Byw Heb Ofn – cadw eich hun yn ddiogel yn ystod argyfwng y coronafeirws
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 y dydd
Llinell gymorth Byw Heb Ofn – Ffoniwch, anfonwch Neges Destun, E-bostiwch neu Sgwrs Fyw