Sefydlwyd yn Sir Benfro dros 20 mlynedd yn ôl, mae PRP Training yn ddarparwr hyfforddiant sy’n arbenigo mewn cyflawni Prentisiaethau yn y Gweithle trwy’r De a Gorllewin Cymru ac Hyfforddiant Galwedigaethol yn ein Hacademi yn Sir Benfro. Mae PRP wedi eu hachredu gan City and Guilds, Edexcel ac hefyd Y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
EIN CYFLAWNIADAU
Fan yma gallwch chi astudio rhai o’n hystadegau am ein Canolfan Addysg
BLOGIAU DIWEDDAR
Rydym yn falch iawn o roi gwybod i chi am ein dysgwr Hyfforddeiaeth, Kaydee Craig. Mae wedi cwblhau rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 gyda ni ac wedi cael gwaith llawn amser a Phrentisiaeth gyda’i lleoliad gwaith, Ysgol Maenorbŷr! Da iawn Kaydee, rydych wedi gweithio’n eithriadol o galed ac wedi dangos dawn naturiol ar […]
Llongyfarchiadau Courtney! Rydym yn falch o gyhoeddi bod un o’n dysgwyr Hyfforddeiaeth, Courtney Purser, wedi cwblhau ei rhaglen yr wythnos hon ac wedi cael gwaith llawn amser a phrentisiaeth mewn gofal oedolion. Da iawn Courtney, rydych wedi dangos moeseg ac aeddfedrwydd gwaith sy’n glodwiw drwy gydol yr amser hwn ac rydym wrth ein bodd ein […]
Llongyfarchiadau Keenan! Rydym yn falch o gyhoeddi bod un o’n dysgwyr Hyfforddeiaeth, Keenan Jones, heddiw wedi cwblhau ei raglen ac wedi cael gwaith llawn amser. Da iawn Keenan, rydych wedi gweithio’n galed iawn ac wedi datblygu cymaint, dymunwn y gorau i chi ar gyfer eich cyflogaeth yn y dyfodol gyda Capestonefarm.
RYDYM YN GWEITHIO GYDA...



Cysylltwch â ni...
Fe wnaeth brentisiaeth helpu i ennill dyrchafiad
Dechreuais weithio gyda fy ngyflogwr nôl ym 2012, fy swydd gyntaf oedd fel commis chef, ac mi oedd y gwaith yn amrywio o lanhau i baratoi/coginio. Mwynheuais mas draw, a phan ges i’r cyfle i wneud NVQ neidiais ar y cyfle. Fe wnes i wir mwynhau’r profiad, o wneud arsylwadau, i gwestiynu’r wybodaeth a gwneud gwaith ymchwiliol i mewn i’r hyn doeddwn i ddim yn deall ar y pryd. Teimlaf drwy wneud y cymhwyster yma, mae wedi fy ngalluogi i symud ymlaen yn fy swydd; nawr gallaf drosglwyddo’r wybodaeth newydd sydd gen i i wneud awgrymiadau ar y bwydlenni a’r ryseitiau. Ar ôl ychydig o fisoedd, fe ges i ddyrchafiad i fod yn Chef de Partie, ac yn ystod yr amser yna defnyddiais fy sgiliau i helpu aelodau newydd o’r tîm. Fe ges i y cyfle i symud i weithle arall ac yna mi oeddwn i’n 2ail Gogydd; mi oedd hyn hefyd yn mynd i fod yn sialens i fi. Fe wnes i wir mwynhau fy amser yna ac eto defnyddiais nifer o’r sgiliau enillais o’r prentisiaeth. Ym 2016, fe ges i ddyrchafiad arall, y tro yma i fod yn Brif Gogydd dros dro, gweithiais yn y rôl yma am amser a phryd daeth y cyfle i fod yn brif gogydd yn un o’r ceginau arall y cwmni, cymerais i y swydd, yna penderfynais mi oedd yn amser i wneud Lefel 3. Roedd y sgiliau roedd yn rhaid i fi ddatblygu a’r wybodaeth dysgais i, wedi fy helpu i greu bwydlenni a ryseitiau fy hun ac i greu costau fy hun a ble i’w ffynonellu o. Rydw i mor hapus gyda phopeth rydw i wedi eu cyflawni a dysgu hyd at hyn ac rydw i’n edrych ymlaen i ennill fy nghymhwyster.
Anna
Cymerais ran yn y cwrs Arweinyddiaeth Tîm gyda PRP Training, ac mae popeth â ddysgais wedi fy helpu i symud ymlaen trwy’r cwmni.
Sophie McDonald
Fe wnaeth PRP Training helpu gyda fy nghyrsiau arlwyo, roedd hyn yn golygu mi oeddwn i’n gallu symud ymlaen yn fy ngyrfa. Alla i ddim eu hargymell ddigon.
